Gwella sgiliau digidol o fewn y diwydiannau creadigol

Cafodd Cynhyrchu Cyfryngau Uwch a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth. Roedd y prosiect yn cefnogi sector diwydiannau creadigol Cymru trwy hyfforddi gweithwyr proffesiynol a graddedigion i fanteisio ar dechnolegau newydd mewn cynhyrchu cyfryngau.

Roedd Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun amlddisgyblaeth unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy gyfuno gwybodaeth ymarferol am raglennu cyfrifiaduron a chynhyrchu cyfryngau, rhoddwyd sgiliau  ymarferol angenrheidiol i gyflogeion allu gweithio gyda thechnolegau digidol a chyfryngau uwch.

Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, cynigwyd mynediad i fusnesau ac unigolion i hyfforddiant lefel uchel i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon a gyda ffocws penodol ar dechnolegau newydd a’u potensial ar gyfer cynyddu twf a swyddi.

Modiwlau

Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau PNG
Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol PNG
Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Uwch
Diwyllinnau Digidol PNG
Data Mawr PNG
Graffeg Gymhwysol PNG
Datblygu Gwefannau PNG
Realiti Ymestmnol PNG
Rhywedd a Chynyrchu Cyfryngau PNG
Cysyniadau a Sgiliau Ymchwil PNG

Gwobr Gwella Dysgu ac Addysgu ar gyfer CCU Darlithydd

Llongyfarchiadau mawr i Dr Laura Stephenson, un o’n darlithwyr CCU, sydd wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol Prifysgol Aberystwyth eleni am y modiwl Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau CCU. Mae’r wobr hon, sy’n agored i’r brifysgol gyfan ac yn cael ei dyfarnu gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn llwyddiant rhyfeddol. Mae’r panel wedi nodi’r meysydd…