Astudio gyda ni

Hafan  /  Astudio Gyda Ni

Cyflwynir ein hyfforddiant mewn fformat hyblyg sy’n ymateb i’r diwydiant ac sy’n galluogi myfyrwyr i weithio trwy ddysgu o bell â chymorth i ddiweddaru eu gwybodaeth dechnegol, gwreiddio diwylliant ymchwil yn y gweithle a gweithio tuag at gymwysterau ôl-raddedig wedi’u teilwra i anghenion eu diwydiant.

Cefnogir y cynllun gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru gan ein galluogi i gynnig hyfforddiant ar lefel Meistr i fusnesau / gweithwyr ar gyfradd â chymhorthdal mawr o £165.00 y modiwl.

Cewch glywed gan ein Myfyrwyr….

Cefnogaeth

Trwy gofrestru ar y cwrs hwn byddwch yn dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly bydd gennych fynediad i’r gwasanaethau cymorth a ddarperir gan y sefydliad. P’un a oes angen cefnogaeth neu arweiniad academaidd arnoch neu angen cyngor ynghylch lles, cyllid neu yrfaoedd yn y dyfodol, gallwch fanteisio ar y gwahanol wasanaethau a gynigir gan y Brifysgol.