Hafan / Astudio Gyda Ni / Cymhwyster & Ffioedd
Cymhwyster
Gall unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd (gweler y map isod ar gyfer siroedd sydd wedi’u cynnwys yn y prosiect) sydd naill ai â gradd israddedig mewn pwnc perthnasol NEU o leiaf 2 flynedd o brofiad perthnasol wneud cais i astudio trwy’r rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch.
Ffioedd
Cefnogir y cynllun gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru gan ein galluogi i gynnig hyfforddiant ar lefel Meistr i fusnesau / gweithwyr ar gyfradd â chymhorthdal mawr o ddim ond £165.00 y modiwl.
Erbyn hyn mae lefel ariannol uwch fyth ar gael trwy’r prosiect mewn ymateb i sefyllfa firws Covid-19. Felly gall sefydliadau cymwys* a’r hunan-gyflogedig nawr elwa ar hyfforddiant â hyd at 100% o gymhorthdal.
*Rhaid i sefydliadau beidio â bod wedi derbyn mwy na 200,000 ewro o gymorth gwladwriaethol De Minimis yn ystod y 3 blynedd ariannol ddiwethaf. Mae angen datganiad De Minimis
Bwrsariaeth Costau Teithio a Gofal Dibynyddion
Os ydych chi’n talu’ch ffioedd eich hun ac ar incwm isel (llai na 15 mil y flwyddyn) neu’n hawlio budd-daliadau, efallai y gallech chi fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gyda theithio i weithdai neu gyda gofal dibynyddion tra’ch bod chi’n mynychu. Cysylltwch â’n tîm i gael mwy o wybodaeth.
