Hafan / Astudio Gyda Ni / Cymwysterau
Mae astudio un neu ddau fodiwl yn wych ar gyfer diweddaru eich gwybodaeth ond fe allech chi gymryd mwy o fodiwlau ac ennill cymhwyster ôl-raddedig.

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch werth 60 credyd a gellir ei chyflawni trwy gwblhau unrhyw 3 modiwl a addysgir yn llwyddiannus.
Mae’r Diploma Ôl-raddedig mewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch werth 120 credyd a gellir ei gyflawni trwy gwblhau unrhyw 6 modiwl a addysgir yn llwyddiannus.
Mae’r cymhwyster Meistr mewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch werth 180 credyd a gellir ei gyflawni trwy gwblhau’n llwyddiannus:
- Ein dau fodiwl rhagarweiniol:
- Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau (20 credyd)
- Unrhyw 3 modiwl a addysgir o’r rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch (20 credyd yr un)
- Cysyniadau a Sgiliau Ymchwil (20 credyd)
- Traethawd Estynedig (60 credyd)