Dewisiadau Astudio

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Dewisiadau Astudio

Dyluniwyd ein rhaglen ar-lein i’ch galluogi i astudio heb yr angen i gymryd amser o’r gwaith. Fodd bynnag, mae ein modiwlau cymysg yn darparu elfennau gweithdy byr dewisol ar gyfer rhai o’r elfennau mwy ymarferol. Os ydych chi’n bwriadu gweithio tuag at radd Meistr lawn byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil.

Mae pob modiwl dysgu o bell yn rhedeg am 14 wythnos ac yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein. Mae deunydd dysgu ym mhob uned wythnosol yn cynnwys; canllaw astudio y gellir ei argraffu, darlithoedd fideo a thrafodaethau, podlediadau y gellir eu lawrlwytho (ar gyfer gwrando yn y car), darllen dan arweiniad, cwisiau rhyngweithiol, a fforwm drafod ar-lein. I gymryd rhan bydd angen mynediad at fand eang sy’n gallu ffrydio fideo YouTube.

Dysgu Cymysg yw dysgu o bell gydag elfennau gweithdy. Fel ein dysgu o bell, mae pob modiwl cymysg yn rhedeg am 14 wythnos. Rhennir pob modiwl yn unedau ar-lein ac ymarferol.

Mae’r elfennau dysgu o bell yn ôl eu disgrifiadau.

Mae elfennau gweithdy yn ddewisol ac yn cynnwys rhwng 2 a 5 diwrnod o brofiad ymarferol. Mae bwrsariaethau ar gael i helpu gyda chostau teithio a gofal dibynyddion. Cysylltwch â’n tîm am ragor o wybodaeth.

Mae ymchwil yn elfen sylfaenol o’n rhaglen Feistr. Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi yn sector y diwydiannau Creadigol, efallai byddwch chi eisiau ymgymryd ag ymchwil sy’n cyd-fynd yn agos â’ch gwaith ac mae’n hanfodol bod eich cyflogwr yn gefnogol o’r nodau ymchwil a’r ymrwymiad amser y bydd eich ymchwil arfaethedig yn ei gynnwys.

Er y bydd y ffocws academaidd ar gwblhau darn uwch o ymchwil, bydd gwreiddio’r ymchwil hwn yn eich gweithle yn cynnig cyfleoedd posibl ar gyfer arloesi yn eich gweithle. Byddem yn argymell trafod eich syniadau â’ch cyflogwr a’ch tiwtor cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych yn gyflogedig mewn sector perthnasol, efallai yr hoffech gwblhau traethawd hir desg neu gynnal ymchwil. Gall Prifysgol Aberystwyth letya nifer gyfyngedig o fyfyrwyr sy’n cynnal prosiectau ymchwil perthnasol.

Llwyth Gwaith

Dyluniwyd ein modiwlau i fod yn hyblyg fel y gallwch ffitio astudio o amgylch eich gwaith ac ymrwymiadau eraill. Byddem yn rhagweld y byddai myfyrwyr yn treulio oddeutu 10-15 awr yr wythnos fesul modiwl maen nhw’n ei astudio.

Os ydych chi’n gweithio’n llawn amser, rydyn ni’n eich cynghori’n gryf i beidio â chymryd mwy nag un modiwl ar yr un pryd, hyd nes eich bod chi wedi cwblhau un o leiaf ac yn ymwybodol o’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig.

Asesiad

Nid oes unrhyw arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys cyfuniad o asesiadau ymarfer a rhai wedi’u hasesu. Mae’r rhain yn cynnwys tasgau fel llunio adroddiad fel pe bai ar gyfer cyfnodolyn masnach; adolygu’r llenyddiaeth ddiweddaraf, dadansoddi data, traethodau, dylunio prosesau, straeon digidol; neu gyflwyniadau ar-lein. Mae pob modiwl yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar-lein y gellir eu defnyddio i gyfrannu at eich asesiad.