COFRESTRU MIS HYDREF YN CAU MEWN PYTHEFNOS
Prosiect newydd sbon yw‘Cynhyrchu Cyfryngau Uwch’ sy’n cefnogi busnesau ac unigolion o fewn y diwydiant creadigol yng Nghymru drwy ddarparu hyfforddiant achrededig yn rhad ac am ddim, ar dechnolegau newydd yn y maes digidol a chynhyrchu Cyfryngau.
Dyma gyfle gwych i fudiadau, busnesau a’r hunangyflogedig yng Nghymru wella eu sgiliau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog.
- Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol
- Cyflwyniad I Gynhyrchu Cyfrygau LLAWN
- Graffeg Gymhwysol
- Datblygu Gwefannau
- Diwylliant Digidol
- Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau
- Sgiliau Chynhyrchu Cyfryngau Uwch
Trwy gydweithio gyda’r Adran Gyfrifiadureg ac Adran Theatr, Ffilm a Theledu, cyflwynir ein hyfforddiant mewn fformat hyblyg sy’n ymateb i’r diwydiant ac sy’n galluogi i fyfyrwyr weithio trwy ddysgu o bell â chymorth i ddiweddaru eu gwybodaeth dechnegol, gwreiddio diwylliant ymchwil yn y gweithle ac, os dymunant, weithio tuag at gymwysterau ôl-raddedig wedi’u teilwra i anghenion eu diwydiant.
Caiff y prosiect ei gefnogi’n ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Brifysgol Aberystwyth.
Am fwy o wybodaeth a’r broses cymhwyso, ewch i; amp.aber.ac.uk