Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Bwrdd Ymgynghorol

Hafan  / Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Bwrdd Ymgynghorol

Ken Bird

PSG, West Coast Software Ltd

Cyfarwyddwr cwmni West Coast yn Aberystwyth. Cwmni sydd wedi cyhoeddi gemau, meddalwedd arbenigol ac yn fwyaf diweddar yr offer cadw’n heini, FitBag.

Deian Creunant

Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Four Cymru

Mae Deian wedi cyfrannu at y Celfyddydau yn lleol ac yn genedlaethol, arwain ar farchnata a hyrwyddo ymchyrchoedd i’r Llywodraeth Cymru a’r loteri Genedlaethol.

Susan Fielding

Uwch Ymchwilydd, Y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Bu Susan yn gweithio’n agos a chwmnïau animeiddio i ddod â’r gorffennol yn fyw drwy animeiddiadau, ailgreadau a theithiau rhyngweithiol.

Amanda Rees

Cyfarwyddwr Cynnwys, S4C

Roedd Amanda yn cyfarwyddo, cynhyrchu ac uwch gynhyrchu ystod eang o raglenni ffeithiol i ddarlledwyr ar draws y byd cyn ffurfio ei chwmni ei hun yn 2012. Cafodd Amanda ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys S4C yn Hydref 2016.