Darlithwyr Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Hafan  / Darlithwyr Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Mrs Vera Akpokodje

BSc, MInfSc

Manylion Cyswllt

Ebost: vea3@aber.ac.uk

https://www.aber.ac.uk/cy/cs/staff-profiles/listing/profile/vea3/

 

Dysgu

CSM6020 – Data Mawr
CSN0960 – Traethawd Estynedig

Mae Vera Akpokodje yw un o’r darlithwyr ar brosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch (CCU).

Graddiodd mewn Cyfrifiadureg (B.Sc.) o Brifysgol Nnamdi Azikiwe, Nigeria gan fynd ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Gwyddor Gwybodaeth (M.Inf. Sc. ) o Brifysgol Ibadan, Nigeria. Ar hyn o bryd mae’n fyfyriwr PhD yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth ac yn gweithio ym maes monitro adferiad mewn cleifion strôc.

Ar brosiect CCU mae’n dysgu Data Mawr (CSM6020) a’r Traethawd Hir (CSM0960). Mae ganddi dros 12 mlynedd o brofiad addysgu yn darlithio ym maes Systemau Gwybodaeth Rheoli, Systemau Gweithredu a rhwydweithio Cyfrifiadurol.

Mae’n fam i dri o blant ac wrth ei bodd yn pobi yn ystod ei hamser sbâr.

Dr Jonathan Bell

B.Eng. (Anrh), Ph.D.

Dysgu

CSM0220 – Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol
CSM4020 – Graffeg Gymhwysol
CSM5020 – Datblygu Gwefannau
CSM0960 – Traethawd Estynedig
CSM6020 – Data Mawr
HYM4820 – Cysyniadau a Sgiliau Ymchwil

Welsh learner logo

Mae Dr Jon Bell yn un o ddau ddarlithydd cyfrifiadureg ar y Prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch. Graddiodd gyda B.Eng mewn Peirianneg Meddalwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2000 gan ddal ati i ennill ei PhD yn 2006. Ers hynny mae llawer o’i waith ymchwil wedi ymwneud â Golwg Gyfrifiadurol, Modelu 3D a Phrosesu Delweddau. Roedd hyn yn cynnwys gwaith gyda Modelu 3D Stereo ac Animeiddio yn ychwanegol at Realiti Estynedig, fel rhan o’r Prosiect “Archwilio’r Colledig a’r Anweledig” ar Fryn Celli Ddu, a gweithio ar segmentu delweddau ar gyfer olrhain twf planhigion.

Cyn ennill ei radd, gweithiodd fel ffotograffydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddatblygu dull o greu copïau ffilm modern o hen negatifau plât gwydr. Mae Jon hefyd wedi addysgu ar fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig sy’n cyflwyno myfyrwyr i Raglennu a Datblygu’r We, y mae bellach yn eu defnyddio yn ei rôl gyfredol.

Tomos Fern

BSc (Anrh)

Dysgu

CSM5020 – Datblygu Gwefannau
CSM4120 – Realiti Ymestynnol
CSM0960 – Traethawd Estynedig
CSM0220 – Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol

Welsh logo

Mae Tomos Fearn yn un o’r darlithwyr cyfrifiadureg ar brosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch (CCU).

Graddiodd yn 2018 gyda BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan barhau yno i weithio tuag at Doethuriaeth mewn roboteg a deallusrwydd artiffisial.

Ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu ei Ddoethuriaeth, gan greu prototeip cadair olwyn robotig a fframwaith meddalwedd i gyflawni llywio lled-annibynnol “OK wheelchair, take me to the fridge!”. Mae ei brosiect yn edrych ar y modd y gellir addasu cadeiriau olwyn robotig i newidiadau yn yr amgylchedd gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Roedd hyn yn cynnwys gweithio a rheoli llawer iawn o ddata ystadegol, datblygu llwyfannau roboteg a meddalwedd i’w defnyddio mewn amgylcheddau rhithiol.

Ers 2013 mae Tomos wedi bod yn gwirfoddoli efo Clwb Roboteg Aberystwyth. Mae’n dysgu ac yn datblygu deunydd STEM y cwricwlwm ar y we i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed drwy gyfrwng roboteg a rhaglennu.

Mae ganddo brofiad o fewn diwydiant y cyfryngau fel cymysgydd cynhyrchu a chyfarwyddwr llif byw ar gyfer cynadleddau TEDx a ffrydiau byw Aberystwyth ar gyfer Wythnos Roboteg UKRAS. Mae wedi gweithio fel fideograffydd a golygydd fideo llawrydd ers dros 10 mlynedd.

Heledd Wyn

BA (Hons)

Dysgu

TFM6420 – Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau
CSM0960 – Traethawd Estynedig

Welsh logo

Graddiodd Heledd mewn Drama o Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Hyfforddodd hefyd yn NFTS.

Mae Heledd wedi hyfforddi fel cyfarwyddwr gyda’r BBC ac mae ganddi gefndir mewn cyfarwyddo a gwaith camera ar Ddrama a rhaglenni dogfen (BBC, S4C) ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Ffilm Cymru Wales. Mae hi’n wneuthurwr ffilmiau annibynnol ac yn ymarferydd creadigol ac wedi cyflwyno nifer o ffilmiau i gleientiaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru a Fiction Factory. Yn fwy diweddar, canolbwyntiodd ar waith addysgol ac ar greu fideos cyfranogol gan weithio ar sawl prosiect sy’n annog ac yn grymuso lleisiau pobl ifanc.

Enillodd newydd-ddyfodiad gorau BFI am ei ffilm ar ddatblygiad Bae Caerdydd.

Mae ganddi brofiad o weithio ar amrywiol brosiectau. Mae hi wedi mynychu digwyddiadau amrywiol i drafod drama ddwyieithog mewn Cenhedloedd bychain a chynhyrchu gyda llais benywaidd a chymdeithasol cryf.

Mae hi hefyd wedi arddangos ei ffilmiau trwy osodiadau ac wedi cydweithio â chyfansoddwyr, artistiaid ac academyddion gyda theatr a dawns a chyngherddau.

Mae hi wedi bod ar fwrdd BAFTA Cymru a RTS Cymru.

Enillodd ei e-lyfr, llawlyfr ar wneud ffilmiau, ‘Vision to Viewer/Syniad i’r Sgrin’ yr adnodd ar-lein gorau.

Mae ymchwil barhaus Heledd trwy ffilm yn archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i ymgysylltu’n weithredol â chymdeithas i ffurfio persbectif merch a rhoi llais i bobl, a sut i gyfathrebu a chynrychioli rôl ‘mam’ trwy ffilm.