Amdanom ni

Hafan  /  Amdanom ni

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn brosiect a gefnogir yn ariannol sy’n cynnig mynediad at hyfforddiant lefel uchel i fusnesau ac unigolion yn y sectorau diwydiannau creadigol a chyfryngau i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon. Mae’n gynllun amlddisgyblaeth unigryw rhwng adrannau CyfrifiaduregAstudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cefnogir y cynllun gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (Blaenoriaeth 2 ‘Sgiliau ar gyfer Twf‘) trwy Lywodraeth Cymru.

Ein nod yw gwella arloesedd a chynhyrchiant yn sector diwydiannau creadigol Cymru trwy ddarparu hyfforddiant achrededig i fanteisio ar dechnolegau newydd a sgiliau ymarferol yn y cyfryngau.

Prifysgol Aberystwyth

Wedi’i sefydlu ym 1872, mae Prifysgol Aberystwyth yn brifysgol flaenllaw o ran ei haddysgu a’i hymchwil. Dyfarnwyd Aur iddi yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (TEF) ym mis Mehefin 2018 ac fe’i henwyd yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd ei Haddysgu yn The Times | Sunday Times Good University Guide 2019, y brifysgol gyntaf i ennill yr anrhydedd am ddwy flynedd yn olynol.

Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019, Aberystwyth oedd y brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr, ac yn ail yn y DU am foddhad myfyrwyr yn gyffredinol. Nododd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ddiweddaraf yn 2014 fod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Aberystwyth o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch.

Mae’r Brifysgol yn gymuned o oddeutu 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg ac ymchwil ysbrydoledig mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol.