Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth. Mae’r prosiect yn cefnogi sector diwydiannau creadigol Cymru trwy hyfforddi gweithwyr proffesiynol a graddedigion i fanteisio ar dechnolegau newydd mewn cynhyrchu cyfryngau.
Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun amlddisgyblaeth unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Drwy gyfuno gwybodaeth ymarferol am raglennu cyfrifiaduron a chynhyrchu cyfryngau, y nod yw rhoi’r sgiliau ymarferol angenrheidiol i gyflogeion allu gweithio gyda thechnolegau digidol a chyfryngau uwch.
Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, gallwn gynnig mynediad i fusnesau ac unigolion i hyfforddiant lefel uchel i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon a gyda ffocws penodol ar dechnolegau newydd a’u potensial ar gyfer cynyddu twf a swyddi.
Darperir hyfforddiant mewn fformat hyblyg sy’n ymateb i’r diwydiant ac sy’n galluogi myfyrwyr i weithio trwy ddysgu o bell â chymorth i ddiweddaru eu gwybodaeth dechnegol, ymgorffori diwylliant ymchwil yn y gweithle a gweithio tuag at gymwysterau ôl-raddedig wedi’u teilwra i’w hanghenion diwydiant.
Erbyn hyn mae lefel ariannol uwch fyth ar gael trwy’r prosiect mewn ymateb i sefyllfa firws Covid-19. Felly gall sefydliadau cymwys* a’r hunan-gyflogedig nawr elwa ar hyfforddiant â hyd at 100% o gymhorthdal hyd at 31 Awst 2021.
*Rhaid i sefydliadau beidio â bod wedi derbyn mwy na 200,000 ewro o gymorth gwladwriaethol De Minimis yn ystod y 3 blynedd ariannol ddiwethaf. Mae angen datganiad De Minimis