Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  /  Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau

Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau

Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i dri cham craidd cynhyrchu cyfryngau: cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Yn ystod y cyfnod cyn-gynhyrchu, byddwch yn dysgu sgiliau cynhyrchu allweddol yn cynnwys addasu deunyddiau sgriptiau ar gyfer y sgrin, yn ogystal â chanllawiau cyfreithiol, cyllidebu ac amserlennu. Yn y bloc cynhyrchu, byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol hanfodol ar gyfer y set neu’r stiwdio, megis sinematograffeg elfennol (camera a goleuo) a thechnegau cynhyrchu sain. Bydd y bloc ôl-gynhyrchu yn eich cyflwyno i’r technegau golygu sylfaenol ar gyfer trawsnewid ffilm fideo a sain amrwd yn doriad terfynol caboledig.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Deall a dangos pwysigrwydd cynllunio a pharatoi’n drylwyr yn y broses cynhyrchu cyfryngau, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r canllawiau cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol.
  2. Dangos a defnyddio gwybodaeth sylfaenol ac ymarferol o gyfarpar sain, camera, goleuo a golygu.
  3. Mynegi bwriadau creadigol a gwneud penderfyniadau sy’n briodol er mwyn gwireddu’r amcanion artistig hyn.

Sylwch oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol mewn ymateb i bandemig COVID-19, ni allwn gynnig rhai elfennau o’r modiwl hwn yn ôl y bwriad. Mae pob elfen addysgu, gan gynnwys gweithdai ymarferol, yn cael eu cynnal ar-lein.

Rydym hefyd wedi addasu ychydig o gynnwys modiwlau i adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol. Er enghraifft, ar gyfer y modiwl cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau, byddwch chi’n datblygu’ch cysyniad cyfryngau eich hun yn llawn, ac yn cael eich cefnogi i ddatblygu sgiliau cynhyrchu cyfryngau. Serch hynny, ni fydd disgwyl i chi gynhyrchu ffilm derfynol. Byddwn yn parhau i fonitro ac addasu yn ôl yr angen er mwyn cynnig addysgu a dysgu o’r safon uchaf i’n myfyrwyr.

Cynnwys

Mae’r modiwl yn defnyddio cyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad, taflenni gwaith a gweithdai ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1
1. Datblygu Cysyniad a Dadansoddiad o’r Sgript: Naratif, Addasu, Byrddau Stori a Rhestrau Saethu
2. Amserlennu a Chyllidebu: Lleoliadau, Taflenni Galwadau, Costau Uwch-y-Llinell/Is-y-Llinell
Bloc 2
3. Camera I: Fframio, Cyfansoddiad, Cydbwysedd Gwyn, Dinoethiad, Ffocws a Symudiad
4. Camera II: Datblygu Sgiliau Camera
5. Goleuo a Sain: Goleuo 3-Phwynt a Defnyddio Microffonau Personol a Bŵm
6. Gwneud Ffilmiau’n Annibynnol: Sgiliau Cynhyrchu ar Waith
Bloc 3
7. Hanfodion Golygu: Y Rheol 180-gradd, Torri ar Symud a Fframio (y Rheol 30-gradd)
8. Golygu Artistig: Pwyslais, Rhythm, Amrywiaeth a Phontydd
9. Ôl-Sain: Recordio Deialog Ychwanegol (ADR), Foley, Sound FX a Lefelau

Darlithwyr: Dr Laura Stephenson, Sara Penrhyn Jones

Cyflwyniad gan Sara Penrhyn Jones, darlithydd Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau