Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  /  Graffeg Gymhwysol

Graffeg Gymhwysol

Graffeg Gymhwysol

Bydd y modiwl hwn yn dysgu hanfodion prosesu delweddau a fideo ac animeiddio 3D â dealltwriaeth o’r fathemateg sylfaenol. Cyflwynir y fathemateg ar lefel fydd yn addas i bobl â chymhwyster TGAU sydd heb efallai astudio mathemateg ers tro. Fe’ch cyflwynir i’r cysyniadau mathemategol y tu ôl i drin a phrosesu delweddau yn ogystal â graffeg 3D. Byddwn yn edrych ar gywasgu delweddau a’u hidlo cyn symud ymlaen i ddefnyddio pecyn animeiddio 3D i greu delweddau ac animeiddiadau.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Cymhwyso rhifyddeg fectorau sylfaenol a thrawsffurfiau matrics at 2D a’u cyffredinoli i ddata 3D.
  2. Cymharu a gwerthuso’n feirniadol ystod o dechnegau cywasgu, trin a datblygu delweddau.
  3. Dangos dealltwriaeth a gallu i gymhwyso ystod o dechnegau modelu ac animeiddio 3D.
  4. Cymhwyso technegau priodol i greu allbwn proffesiynol.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn defnyddio darlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gwaith ymarferol gyda gweithdai. Byddwn yn trafod y meysydd canlynol:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1 – Y drwydded yrru graffeg fathemategol
1. Cyfesurynnau a rhifyddeg fectorau
2. Polygonau a thrawsffurfiau matrics 2D
3. Cyffredinoli trawsffurfiau matrics i 3D
Bloc 2 – Prosesu delweddau a fideo
4. Cyflwyniad i brosesu delweddau a fideo
5. Ardaloedd lliw a histogramau
6. Cywasgu, hidlo ac ôl-brosesu
Bloc 3 – Animeiddio 3D
7. Rhwyllau 3D a golygu rhwyllau
8. Lleoli a goleuo 3D
9. Defnyddiau a gweadau
10. Animeiddio

Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje