Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  /  Datblygu Gwefannau

Datblygu Gwefannau

Datblygu Gwefannau

Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i dechnoleg greiddiol a phensaernïaeth y We. Trafodir cyfathrebu, strwythur a chyflwyno cynnwys, a hanfodion cronfeydd data ar gyfer cymwysiadau’r we. Wrth gwblhau’r modiwl, byddwch yn barod i ddechrau datblygu gwefannau, yn cynnwys safleoedd sy’n defnyddio ochr gefn cronfa ddata.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Dangos gwybodaeth sylfaenol ac ymarferol fanwl o ddatblygu’r we, yn cynnwys defnyddio Systemau Rheoli Cynnwys (CSS), HTML, a chronfeydd data.
  2. Gwerthuso pensaernïaeth y we a deall y gwahaniaeth rhwng prosesu o du’r cwsmer ac o du’r gweinydd.
  3. Dadansoddi’r gofynion er mwyn cynllunio datrysiadau gwe effeithlon a phriodol sy’n bodloni safonau’r we o ran cyflwyno a hygyrchedd.
  4. Llunio tudalennau gwe syml gan ddefnyddio system reoli cynnwys a thrwy ysgrifennu HTML a rheoli’r cyflwyno drwy ddefnyddio CSS.
  5. Cynllunio, gwerthuso, gosod a chwestiynu storfeydd data parhaus.
  6. Cyfathrebu egwyddorion dylunio ar gyfer y we i gynulleidfaoedd annhechnegol a thechnegol.

Cynnwys

Byddwn yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gweithgareddau ymarferol i drafod y cynnwys isod:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1 – Cyflwyniad i’r we
1. Hanfodion y we – pensaernïaeth ac egwyddorion
2. Rheoli gwefannau – sefydlu a chynnal a chadw, rheoli’r defnydd o’r cynnwys
3. Cynllunio gwefannau
Bloc 2 – Datblygu gwefannau
4. Ysgrifennu gwefannau – Cyflwyniad i HTML
5. Cyflwyno – defnyddio CSS
6. Cynllunio ymatebol – cynllunio gwefannau i’w defnyddio ar wahanol ddyfeisiau
7. Sgriptio ar gyfer gwefannau – JavaScript i ychwanegu rhyngweithio
Bloc 3 – Gwefannau proffesiynol
8. Cronfeydd data ar gyfer y we – cyflwyno’r ochr gefn
9. Safonau ac arfer gorau
10. Dyfodol y we

Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje

Cyflwyniad gan Johnathan Bell, Datblygu Gwefannau