Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  / Realiti Ymestmnol

Realiti Ymestmnol

Mae Realiti Ymestynnol (XR), sy’n cwmpasu Realiti Rhithiol (VR), Realiti Estynedig (AR) a Realiti Cymysg (MR), yn dechnoleg gyffrous a chymharol newydd sy’n galluogi dulliau newydd o ryngweithio ag amrywiaeth eang o setiau data’r Diwydiannau Creadigol. Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r technolegau sylfaenol sy’n galluogi XR. Bydd yn canolbwyntio ar sut y’u defnyddir a’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio ar gyfryngau digidol. Cyflwynir cyflwyniad i XR gan ddefnyddio ymdriniaeth weddol gronolegol gan ganolbwyntio ar sut y daw’r holl dechnolegau sylfaenol ynghyd ar gyfnodau allweddol yn hanes XR. Wrth ichi ddysgu am y dechnoleg, byddwch hefyd yn datblygu profiad ymarferol yn y maes a daw’r cwrs i ben â Brîff Cynnyrch XR trwyadl wedi’i adolygu gan gymheiriaid y gallech ei ddefnyddio yn sail i’w ddatblygu ymhellach.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Deall y technolegau sylfaenol sy’n galluogi XR.
  2. Gwybod sut y defnyddir y technolegau XR sylfaenol a’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol, a bydd gennych afael dda ar wybod sut i ddelio ag XR wrth iddo esblygu a chydgyfeirio’n gyflym.
  3. Defnyddio Unity XR API i adeiladu a rhedeg cymwysiadau XR syml ar eich ffôn clyfar eich hun.
  4. Diffinio, delweddu ac iteru eich cysyniad gwreiddiol eich hun ar gyfer cymhwysiad XR.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn defnyddio darlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gwaith ymarferol gyda gweithdai. Byddwn yn trafod y meysydd canlynol:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1 – Cyflwyniad i’r we
1. VR i bawb: Sut gwnaeth Google Cardboard ddemocrateiddio VR.
2. Ffrwydrad VR: O Google Cardboard i Google Earth VR a Sut aeth Pokemon GO i bobman.
3. CBeth fydd dyfodol XR?
Bloc 2 – Datblygu gwefannau
4. Dechrau arni gydag XR.
5. Dod ag AR i’ch porwr gwe.
6. Creu profiadau VR a delweddu yn Google Cardboard neu Daydream.
7. Rheoli’r Rhith-amgylchedd.
Bloc 3 – Gwefannau proffesiynol
8. Diffinio, delweddu cymhwysiad XR.
9. Iteru cymhwysiad XR.
10. Creu Brîff Cynnyrch XR trylwyr wedi’i adolygu gan gymheiriaid.

Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje, Dr Helen Miles