Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  / Diwylliannau Digidol

Diwylliannau Digidol

Diwylliant Digidol

Mae’r modiwl hwn yn cydnabod bod y diwylliannau digidol yn cael effaith sylweddol ar gynhyrchu cyfryngau cyfoes, gan gydnabod y diwylliannau digidol fel penllanw grymoedd cymdeithasol eang, datblygiadau hanesyddol, rhyngweithgarwch a chreadigrwydd. Mae Diwylliannau Digidol yn ymchwilio i’r tirlun diwylliannol-gymdeithasol yn yr oes ddigidol drwy ddarparu trosolwg o’r ‘digidol’ fel endid damcaniaethol, athronyddol ac ymarferol. Bydd y myfyrwyr sy’n ymwneud ag neu wedi’u cyflogi gan unrhyw agwedd ar gynnwys cyfryngau ar-lein yn elwa o’r modiwl hwn drwy feithrin dealltwriaeth fanwl o sut y defnyddir y diwylliannau digidol i ddylanwadu ac adeiladu ar hunaniaeth, democratiaeth, adloniant a chyfathrebu mewn cynhyrchu cyfryngau cyfoes.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Lleoli natur datblygiadau technolegol o fewn fframwaith hanesyddol-gymdeithasol ehangach.
  2. Gwerthuso a myfyrio ar effaith technolegau digidol ar weithgareddau a chyd-destunau hanesyddol-gymdeithasol.
  3. Egluro a dadansoddi’r rhyngweithio rhwng diwylliannau digidol, technolegau digidol a chynhyrchu cyfryngau cyfoes.

Cynnwys

Mae’r modiwl hwn yn defnyddio cyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad, tiwtorialau grŵp a thaflenni gwaith ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1 – Cyd-destun digidol
1. Technoleg mewn hanes
2. Dinasyddiaeth a democratiaeth ddigidol
3. Brandio a marchnata
Bloc 2 – Seiberddiwylliant
4. Y gymuned a rhwydweithio cymdeithasol
5. Ail fywydau a chwarae gemau ar lein
6. Hacio, is-ddiwylliannau a hacweithredu
Bloc 3 – Cynhyrchu a Defnyddio
7. Adrodd straeon a chelf ddigidol
8. Sinema a cherddoriaeth ddigidol
9. Teledu digidol, llwyfannau a chydgyfeirio

Darlithydd: Dr Laura Stephenson