Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  /  Data Mawr

Data Mawr

Data Mawr

Mae ffeiliau cyfryngau yn aml yn fawr a gall prosiect cyfryngau gynnwys nifer o ffeiliau cysylltiedig. Yn y modiwl hwn, byddwn yn ymchwilio i sut i reoli’r holl ddata yma, gan gynnal cyfanrwydd y data yn ogystal â chyfanrwydd y berthynas rhyngddynt. Wrth archifo’r prosiectau, dymunwn adfer ystyr y data (a yw fformatau’r ffeiliau yn dal i gael eu cefnogi?) yn ogystal â dod o hyd iddo. Sut mae olrhain data cysylltiedig? Mae’r modiwl hwn yn ymhelaethu ar y cyflwyniad i gronfeydd data perthynol a gafwyd yn y modiwl Datblygu’r We ac yn rhoi golwg fanylach ar reoli data.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Cynllunio a rhoi cronfa ddata NoSQL ar waith gydag un neu ragor o gymwysiadau ochr flaen.
  2. Gwerthuso cymhwysedd gwahanol strategaethau rheoli data technegol ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau.
  3. Egluro’r cysyniadau hanfodol y tu ôl i amrywiaeth o fodelau data NoSQL, yn cynnwys modelau data allweddol, dogfennau a graffiau.
  4. Adnabod y problemau diogelwch posibl a godir drwy ddefnyddio’r systemau rheoli data NoSQL i drin cyfeintiau enfawr o ddata â chyfraddau trafod uchel, ac awgrymu strategaethau lliniaru.

Cynnwys

Byddwn yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gwaith ymarferol i drafod y meysydd canlynol:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1 – SQL a NoSQL
1. Rheoli data perthynol
2. Cyferbynnu systemau data perthynol (SQL) a NoSQL
3. Ymholi cronfeydd data presennol
Bloc 2 – Datblygu systemau rheoli data NoSQL
4. Dewis y system rheoli data “gywir”
5. Modelu, diogelu a phrosesu cyfeintiau enfawr o ddata â chyfraddau trafod uchel
6. Creu model data NoSQL, rhoi’r model ar waith ac ymholi’r gronfa ddata fydd yn deillio ohono
7. Archwilio modelau data NoSQL amgen
Bloc 3 – Dadansoddeg data a chloddio data
8. Rhaglennu cymwysiadau ar gyfer dadansoddi data
9. Rheoli data cwmwl
10. Mannau gwan, ffactorau gweithdrefnol a thechnegol, dadansoddi a lliniaru bygythiadau

Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje