Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  /  Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol

Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno elfennau sylfaenol rhaglennu cyfrifiadurol, ac yn canolbwyntio ar raglennu o amgylch y cyfryngau digidol – delweddau a sain. Byddwch yn dysgu sut i raglennu cyfrifiadur i gyflawni tasgau syml gyda ffeiliau cyfryngau digidol gan ddefnyddio iaith Python ac yn dysgu sut i werthfawrogi gwahanol ffyrdd o fynd ati i raglennu, eu posibiliadau a’u cyfyngiadau.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Dangos gwybodaeth sylfaenol ac ymarferol fanwl o raglennu yn cynnwys rhesymeg gyfrifiadurol ac ymwneud â data
  2. Cloriannu cyfyngiadau a rhinweddau cymharol gwahanol dechnolegau rhaglennu
  3. Cyfathrebu posibiliadau a chyfyngiadau technegol i’r gymuned diwydiannau creadigol a rhanddeiliaid eraill yn cynnwys llunwyr polisi a’r cyhoedd

Cynnwys

Mae’r modiwl yn defnyddio cyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad, taflenni gwaith a gweithdai ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

Rhestr o’r unedau

Bloc 1
1. Dechrau arni: Beth yw rhaglen a pham rydym yn dymuno gallu rhaglennu? Sefydlu amgylchfyd rhaglennu er mwyn inni allu ysgrifennu a rhedeg ein rhaglenni ein hunain
2. Blociau Adeiladu Sylfaenol: Newidynnau a gweithrediadau. Y “briciau” yr adeiladir rhaglenni ohonynt
3. Is-gydosodiadau: Datganiadau a strwythurau data. Dechrau adeiladu cod mwy cymhleth
Bloc 2
4. Ailddefnyddio cod: Swyddogaethau a llyfrgelloedd. Ysgrifennu cod mewn blociau ailddefnyddiadwy a defnyddio ac ysgrifennu llyfrgelloedd sy’n cynnwys y blociau hyn
5. Data parhaus: Mewnbwn ac allbwn ffeiliau. Gyda ffocws ar ddata cyfryngau
6. Dogfennu a phrofi ein rhaglenni: Gwneud ein cod yn ddefnyddiadwy gan bobl eraill a sefydlu pa mor dda mae’n gweithio
7. Cyfeiriadaeth gwrthrychau: Defnyddio data sy’n cyfuno priodweddau â’r gweithrediadau y gallwn eu cynnal ar y priodweddau hyn
Bloc 3
8. Meddwl cyfrifiadurol: Sut i feddwl fel rhaglennydd
9. Ffyrdd o fynd ati i raglennu: Mae’r amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu yn cwmpasu gwahanol “baradeimau” – agweddau – sy’n eu gwneud nhw’n fwy addas ar gyfer gwahanol feysydd
10. Datblygu Meddalwedd: Ffyrdd o ymwneud â’r broses o ddylunio a sicrhau cytundeb rhwng y rhanddeiliaid

Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje

Cyflwyniad Johnathan Bell i Raglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol