Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  / Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y sgiliau, y technegau a’r cymwyseddau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu cynnwys cyfryngau uchelgeisiol ar draws ystod o fformatau, tra hefyd yn ehangu’r potensial ar gyfer cynhyrchu ar draws llwyfannau.

Bydd myfyrwyr yn adeiladu ar sgiliau creadigol a thechnegol presennol, ac yn cael eu cyflwyno i fformatau, prosesau a thechnolegau cynhyrchu cyfryngau newydd ac amgen. Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau camera, sain ac ôl-gynhyrchu. Fel rhan o’r un broses, byddant yn datblygu gwell dealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng sgiliau o’r fath, myfyrio beirniadol, a gwireddu eu huchelgeisiau creadigol eu hunain.

Amcanion dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Dangos gallu uwch i greu ystod eang o gynnwys cyfryngau ar draws llwyfannau.
  2. Mynegi bwriadau uwch ac uchelgeisiol gyda chreadigrwydd, gwreiddioldeb a soffistigedigrwydd technegol.
  3. Dangos gradd uchel o alluoedd beirniadol, dadansoddol a gwerthuso craffach.
  4. Dangos dealltwriaeth o arfer proffesiynol a phwysau logistaidd gwahanol fathau o gynhyrchu cyfryngau, o ran rheoli amser, trefnu, adnoddau, cynulleidfaoedd ac ati.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfres o weithdai ymarferol, ac ategir atynt gan ddarlithoedd a seminarau ar-lein. Bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau uwch, pwnc-benodol ar draws ystod o gysyniadau, cymwyseddau a sgiliau cynhyrchu cyfryngau, gan gynnwys camera, sain, golygu, rheoli cynhyrchu a dosbarthu ar-lein. Bydd y cynnwys yn ymwneud â phob cam o’r broses gynhyrchu, a gallai amrywio o weithio gyda sgrin werdd, i recordio sain ar lefel broffesiynol a chymhleth, neu raddio lliw. Bydd darlithwyr yn ceisio addasu’r cynnwys lle y bo’n bosibl, er mwyn diwallu anghenion penodol myfyrwyr yn y ffordd orau.

Darlithwyr/Goruchwylwyr: Sara Penrhyn Jones, Dr Laura Stephenson, Arbenigedd allanol o’r diwydiant

Cyflwyniad Sara Penrhyn Jones i Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Uwch