Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  /  Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau

Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau

Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau

Bydd y modiwl hwn yn datblygu’ch dealltwriaeth o’r berthynas gymhleth rhwng cyfryngau a rhywedd. Mae’n archwilio tueddiadau allweddol yn nefnydd y gynulleidfa a chynrychiolaeth y rhywiau ac yna’n archwilio’r tueddiadau hynny trwy ddadansoddiad testunol agos o fformatau cyfryngau lluosog. Yn y modiwl hwn, byddwch hefyd yn edrych ar amlygiad tuedd rhywedd yn y byd go iawn o fewn y diwydiant cyfryngau ei hun, gan ystyried arferion y gweithle sy’n atal cydraddoldeb rhywiol, a’r rheoliadau cyfoes sy’n ceisio gweithio yn erbyn gwahaniaethu. Yn y pendraw, mae’r modiwl hwn yn tynnu cysylltiadau rhwng y testunau y mae’r cyfryngau yn eu cynhyrchu ac amodau’r diwydiant sy’n cynhyrchu’r testun hwnnw.

Amcanion Dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth eang o’r berthynas gymhleth rhwng rhywedd a chyfryngau, gyda gwybodaeth fanwl o fewn maes penodol.
  2. Gwerthuso a dadansoddi arferion defnydd a materion cynrychiolaeth.
  3. Gwerthuso a dadansoddi materion o fewn arfer a rheoliad diwydiant.
  4. Mynegi datrysiadau i broblemau cydraddoldeb rhywiol hanesyddol a chyfoes gan ddefnyddio cynllun ymarferol wedi’i hysbysu gan theori a’r man gwaith.

Cynnwys

Defnyddia’r modiwl gyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad, tiwtorialau grŵp a thaflenni gwaith ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:

Rhestr o unedau

Bloc 1 – Gosod y seiliau
1. Arferion defnydd cyfryngau: Dadansoddi cyd-destun hanesyddol ac athronyddol
2. Cynrychiolaeth cyfryngau: Tueddiadau a materion o fewn cyd-destun hanesyddol a chyfoes
Bloc 2 – Adolygiad critigol testunol
3. Hysbysebu, marchnata a rhywedd
4. Ffilm, teledu a rhywedd
5. Newyddiaduraeth, darlledu a rhywedd
6. Diwylliannau digidol, llwyfannau traws-gyfryngau a rhywedd
Bloc 3 – Adolygiad critigol ymarferol
7. Diwydiant: Hawliau dynol, ymddygiad gweithle a gwahaniaethu
8. Rheoliad: Bwlch cyflog, rhaniad llafur a chyfle cyfartal
9. Cysylltu: Alinio tuedd rhywedd testunol a materion gweithle cyfryngau y byd go iawn

Darlithydd: Dr Laura Stephenson