Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Cysyniadau a Sgiliau Ymchwil
Cysyniadau a Sgiliau Ymchwil
Mae’r modiwl cysyniadau a sgiliau ymchwil yn ymdrin ag agweddau allweddol ar ysgrifennu traethawd hir llwyddiannus, gan gynnwys dewis maes ymchwil (llunio pwnc a chwestiwn ymchwil), gweithio gyda ffynonellau (cynradd ac eilaidd) a rheoli data (meintiol neu ansoddol). Bydd yn cyflwyno ystod o fethodolegau ymchwil a dulliau athronyddol, yn ddisgyblaethol ac yn rhyngddisgyblaethol, ac yn tywys myfyrwyr trwy’r broses o lunio adolygiad llenyddiaeth a chyflwyno cais moeseg.
Amcanion dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus dylech allu:
- Dangos dealltwriaeth ymarferol o sut i greu a rheoli prosiect ymchwil annibynnol ar lefel ôl-raddedig.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o’r heriau allweddol (methodolegol, ymarferol a moesegol) wrth gynnal ymchwil annibynnol, ac adlewyrchu’r ddealltwriaeth hon wrth ddatblygu eu cynnig ymchwil eu hunain.
- Dyfeisio a chynllunio eu prosiect ymchwil annibynnol eu hunain
- Cyfleu elfennau allweddol eu cynnig ymchwil ar lafar (heb eu hasesu) ac ar ffurf ysgrifenedig (wedi’i hasesu)
Cynnwys
Addysgir y modiwl trwy weithdy rhagarweiniol ar ddechrau’r tymor, ac yna ymgysylltiad myfyrwyr â phecynnau dysgu ar-lein trwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn cael ei ategu gan weithgaredd grŵp ar-lein ac ymgysylltiad tiwtorial un i un. Bydd pecynnau yn cyflwyno myfyrwyr i ddarlleniadau mewn meysydd allweddol; datblygu sgiliau ymchwil; ac arwain myfyrwyr wrth ddatblygu prosiectau ymchwil unigol.
Cydlynydd: Sara Penrhyn Jones
Darlithwyr/Goruchwylwyr: Dr Laura Stephenson, Ms Sara Penrhyn Jones, Dr Jonathan Bell, Mr Edore Akpokodje