Cwrs llwyddiannus y Brifysgol yn helpu i bontio’r bwlch sgiliau digidol allweddol!

Mae’r Rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, sy’n cael ei rhedeg gan Brifysgol Aberystwyth, wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ceisiadau ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i sefydliadau cymwys.

Mae dros wyth deg o fyfyrwyr wedi cofrestru i ddechrau’r cwrs ym mis Hydref a byddant yn astudio amrywiaeth o fodiwlau gan gynnwys Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau, Datblygu’r We, Graffeg Gymhwysol, Diwylliant Digidol, Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau a Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol.

Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru, mae’n cynnig cyfle i fusnesau, gweithwyr a’r hunangyflogedig wella eu sgiliau digidol, TG a chyfryngau o bell.

Mae’r cwrs MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, a gyflwynir yn Gymraeg a Saesneg, yn gynllun amlddisgyblaethol unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg a Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae dull hyblyg y cwrs hefyd yn caniatáu i gyfranogwyr ddechrau astudio pa bynnag fodiwl sydd o’r diddordeb mwyaf iddynt a chymryd cynifer neu gyn lleied o fodiwlau ag y dymunant, naill ai fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu i adeiladu tuag at ystod o gymwysterau ôl-raddedig – hyd at MSc Meistr.

Gan gyfuno gwybodaeth ymarferol am raglennu cyfrifiadurol â chynhyrchu cyfryngau, y nod yw annog sefydliadau i feddwl ymlaen a thyfu eu talent eu hunain trwy roi’r hyfforddiant sydd ei angen ar eu gweithlu i lwyddo yn y byd digidol sydd ohoni. Mae’r angen hwn wedi dod yn fwy cyffredin fyth yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd bod y pandemig yn cyfyngu ar symud ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ddefnydd digidol.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Gallwn fod yn falch o’r llwyddiant y mae Cymru wedi’i gyflawni hyd yma yn y sector diwydiannau creadigol, fodd bynnag, mae’n hanfodol datblygu’r sgiliau technegol hyn a pharhau i ysbrydoli arloesedd ac uwchsgilio’r gweithlu presennol oherwydd y dirwedd cyfryngau a thechnolegau digidol sy’n newid yn barhaus, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Rydyn ni wedi cynllunio cwrs MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch gan ystyried anghenion busnesau ac unigolion felly mae’n gwrs hyblyg a hygyrch a ddysgir ar-lein a bydd yn ategu at waith y gweithiwr ac ymrwymiadau eraill.”

Un sefydliad sydd eisoes wedi manteisio ar y cynnig hwn yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel yr eglura Annwen Isaac, Rheolwr Adnoddau Dynol yn y Llyfrgell: “Rydym yn gwbl ymwybodol o’r angen i hyrwyddo ein gweithgareddau trwy amrywiaeth o sianeli digidol ac mae’n ddisgyblaeth sy’n esblygu’n barhaus. Mae’r cyfle hwn i hyfforddi nid yn unig yn rhoi sgiliau uwch i’n staff i hyrwyddo gwaith y Llyfrgell ar lwyfannau digidol mewn ffordd fwy creadigol ac arloesol, ond mae hefyd yn cyfrannu at eu datblygiad personol parhaus.

“Trwy gefnogi ein staff wrth iddynt astudio, rydym yn hyderus y bydd ein hadnoddau yn cael eu cryfhau yn eu tro a byddwn hefyd yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau digidol gwerthfawr yn ein tîm.”

Mae pob modiwl yn cynnwys tri bloc sy’n cael eu cyflwyno mewn rhaglen dreigl gyda dyddiadau cychwyn blynyddol ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref, gan roi cyfle i gyfranogwyr y cwrs gwmpasu pob dewis modiwl.

Fe fydd y modiwlau nesaf yn dechrau ym mis Chwefror 2021 a gellir ymgeisio nawr. Oherwydd y cyllid sylweddol sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen hon, mae’n profi i fod yn boblogaidd iawn gyda lleoedd cyfyngedig ar gael ar bob modiwl.

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch neu i weld a ydych chi’n gymwys, ewch i amp.aber.ac.uk neu ebostiwch ccu-amp@aber.ac.uk

Share your thoughts