Cyfle Olaf i Wella’ch Sgiliau Digidol

Cyfle olaf i gael hyfforddiant achrededig AM DDIM mewn sgiliau cynhyrchu cyfryngau a digidol

Mae’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y pandemig.

Mae gan fusnesau a sefydliadau gyfle i ennill a gwella sgiliau cyfryngau digidol eu gweithlu AM DDIM a chefnogi eu gweithwyr wrth iddynt weithio tuag at gymhwyster ôl-raddedig (Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Feistr MSc).

Mehefin 2021 fydd y cyfle olaf i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant achrededig AM DDIM hwn.

Cynlluniwyd Cynhyrchu Cyfryngau Uwch gyda busnesau ac unigolion mewn golwg ac felly mae’n hyblyg, yn hygyrch trwy ddysgu o bell ar-lein a bydd yn ategu at waith y gweithiwr ac ymrwymiadau eraill. Nod y cwrs hyfforddi achrededig lefel uchel hwn yw galluogi busnesau ac unigolion i ddod yn fwy cynhyrchiol, cynaliadwy ac effeithlon yn enwedig yn y byd digidol hwn sy’n newid yn barhaus.

Cyflwynir cwrs MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Prifysgol Aberystwyth trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog. Daw’r modiwlau yn sgil yn sgil cynllun amlddisgyblaethol unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Gwrandewch ar beth sydd gan Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth i ddweud am y cwrs.

Mae cyfranogwyr yn astudio trwy raglen dysgu o bell â chymorth a does dim angen cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Mae pob modiwl yn para tua 14 wythnos ac yn cael eu cyflwyno mewn rhaglen dreigl gyda dyddiadau cychwyn blynyddol ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref, gan roi cyfle i gyfranogwyr y cwrs ddewis pob modiwl yn ei dro.

Mae pynciau’r modiwlau yn cynnwys: Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau; Graffeg Gymhwysol; Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Rhagarweiniol ac Uwch; Diwylliant Digidol a Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol.

Dyma ddywedodd Meredudd Jones, Pennaeth yr Adran TG a Chydlynydd Cymhwysedd Digidol yn Ysgol Maes-y-Gwendraeth, Cefneithin am y cwrs.

Mae dull hyblyg y cwrs hefyd yn caniatáu i gyfranogwyr ddechrau astudio pa bynnag fodiwl sydd fwyaf o ddiddordeb iddynt a chymryd cynifer neu gyn lleied o fodiwlau ag y dymunant, naill ai fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu i adeiladu tuag at ystod o gymwysterau ôl-raddedig (Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Feistr MSc).

Mae Siwan Dafydd, Pennaeth Cyfryngau Cymdeithasol Cwmni Cynhyrchu Telesgop yn gweld Cynhyrchu Cyfryngau Uwch fel y cyfle perffaith i ddatblygu ei sgiliau yn ei gwaith beunyddiol sy’n newid yn barhaus.

Cydnabyddir yn eang bod diffyg sylweddol yn y math hwn o hyfforddiant yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, mae hyfforddiant yn cael ei gynnig AM DDIM ar hyn o bryd i fusnesau a gweithwyr cymwys sy’n cofrestru cyn Mehefin 2021.
 

Peidiwch â cholli’r cyfle gwych yma


I wirio cymhwysedd ar-lein ewch i: https://amp.aber.ac.uk/en/study/eligibility-and-fees/enrolment-eligibility/

European Social Fund

Share your thoughts