Darlithydd CCU yn derbyn Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod darlithydd Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, Heledd Wyn, yn un o wyth artist llwyddiannus a fydd yn rhan o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol ar ôl cael ei dewis o fwy na 90 o geisiadau o ansawdd uchel.

Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn gyfle newydd â thâl sy’n defnyddio celfyddyd i archwilio’r effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar bobl Cymru gan ganolbwyntio ar dair prif thema Ynni, Bwyd a Thrafnidiaeth. Bydd y Cymrodyr yn derbyn cefnogaeth a chyfleoedd i ddatblygu eu gwaith artistig eu hunain, ond hefyd y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau gyda gwyddonwyr a meddylwyr sy’n gweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn bartneriaid ar y cyd i’r Gymrodoriaeth. Mae’n rhan o raglen waith ehangach sy’n gysylltiedig â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Natur Greadigol er mwyn deall yn well sut y gallai celf a diwylliant chwarae rhan fuddiol wrth gynnwys pobl mewn materion allweddol fel yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae Heledd yn addysgu ac yn cefnogi ein Myfyrwyr ar ein modiwlau Cyflwyniad i Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau a Thraethawd Hir. Mae hi wrth ei bodd gyda rhagolygon y gymrodoriaeth yn y dyfodol gan ddweud

Mae’n anrhydedd ac yn gyfle i ddatblygu fy arfer creadigol mewn ffilm yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned i ddyfeisio strategaethau artistig a gwyddonol a fydd yn dylanwadu ar fywyd mwy cynaliadwy yng Nghymru

Cynhaliwyd y cyntaf o’r sesiynau hyn ar 28 Mawrth 2022 a gynhaliwyd gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) ger Machynlleth.