Enwebiad y Gymdeithas Deledu Frenhinol i Fyfyriwr CCU

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod un o’n myfyrwyr meistr, Hannah Roberts, wedi cael ei henwebu yng Ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol eleni.

Gwobrau RTS 2022, a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd, oedd y digwyddiad mawr cyntaf yn y diwydiant teledu i gael ei gynnal yn bersonol yng Nghymru ers gwobrau 2020. Yn ogystal â dathlu’r gwaith gorau gan fyfyrwyr, fe wnaethant ehangu eu gwobrau diwydiant eleni ac maent wedi rhoi cyfle i wneuthurwyr rhaglenni gyflwyno enwebiadau ar gyfer 2020 a 2021 i ddathlu gwaith caled talent Cymru yn ystod cyfnod mwyaf heriol i deledu.

Mae Hannah wedi ei henwebu yn y categori ‘Ffeithiol Ôl-raddedig’ ar gyfer ei rhaglen ddogfen fach o’r enw ‘Tightened Lines’. Mae’r ffilm fer yn rhoi portread personol a gonest o Mark Roberts, tad Hannah, sy’n ymdrechu i bysgota er gwaethaf ei anableddau a’r rhwystrau niferus sy’n ei wynebu. Yn ystod y rhaglen ddogfen rydym yn dysgu sut mae un dyn, gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau, yn addasu ei ffordd o fyw a’i feddylfryd i gyflawni’r nodau y mae’n eu gosod iddo’i hun.

Gan fyfyrio ar yr enwebiad, dywedodd Hannah:

“Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy enwebu am wobr mor fawreddog. ‘Tightened Lines’ yw fy ffilm ddogfen gyntaf, ac ni allwn fod wedi dychmygu cyrraedd mor bell â hyn. Rwy’n falch iawn o’r ffilm ac wedi cael adborth cynnes gan y rhai sydd wedi’i gweld. Mae cael fy nghydnabod gan y diwydiant drwy’r enwebiad hwn wedi rhoi ymdeimlad i mi fy mod yn gallu cynhyrchu straeon cymhellol”.

Cofrestrodd Hannah ar y prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch ym mis Mehefin 2020 ac mae’n gweithio tuag at MSc mewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch. Crëwyd ‘Tightened Lines’ gan Hannah fel rhan o’i hastudiaethau a’i hasesiad ar y prosiect.

Share your thoughts