Cyfle Olaf i Gael Hyfforddiant Achrededig AM DDIM Mewn Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau a Digidol

Mae’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y pandemig. Mae gan fusnesau a sefydliadau gyfle i ennill a gwella sgiliau cyfryngau digidol eu gweithlu AM DDIM a chefnogi eu gweithwyr wrth iddynt weithio tuag at gymhwyster ôl-raddedig (Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Feistr MSc). Mehefin 2021 fydd y cyfle olaf i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant achrededig AM DDIM hwn.

Cyflwynir cwrs MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Prifysgol Aberystwyth trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog, ac fe’i cefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
(ESF) trwy Lywodraeth Cymru ac fe ddaw yn sgil cynllun amlddisgyblaethol unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae’n cyfuno gwybodaeth ymarferol am raglennu cyfrifiadurol â chynhyrchu cyfryngau, a’r nod yw arfogi gweithwyr â’r sgiliau damcaniaethol a’r byd go iawn er mwyn gweithio gyda thechnolegau digidol a chyfryngau uwch.

Cynlluniwyd Cynhyrchu Cyfryngau Uwch gyda busnesau ac unigolion mewn golwg ac felly mae’n hyblyg, yn hygyrch trwy ddysgu o bell ar-lein a bydd yn ategu at waith y gweithiwr ac ymrwymiadau eraill. Nod y cwrs hyfforddi achrededig lefel uchel hwn yw galluogi busnesau ac unigolion i ddod yn fwy cynhyrchiol, cynaliadwy ac effeithlon yn enwedig yn y byd digidol hwn sy’n newid yn barhaus.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth “Mae’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gyfle gwych i’r rheini sydd eisiau gwella eu sgiliau yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru! Pa amser gwell i wella sgiliau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n ein hwynebu a sut i ddefnyddio’r cyfryngau a thechnolegau digidol sy’n newid yn ein tirwedd greadigol. Y newyddion da i gwmnïau yw bod yr hyfforddiant hwn yn rhad ac am ddim.”

Mae cyfranogwyr yn astudio trwy raglen dysgu o bell â chymorth a does dim angen cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Mae pob modiwl yn para tua 14 wythnos ac yn cael eu cyflwyno

mewn rhaglen dreigl gyda dyddiadau cychwyn blynyddol ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref, gan roi cyfle i gyfranogwyr y cwrs ddewis pob modiwl yn ei dro. Mae pynciau’r modiwlau yn cynnwys: Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau; Graffeg Gymhwysol; Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Rhagarweiniol ac Uwch; Diwylliant Digidol a Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol.

Dywedodd Meredudd Jones, Pennaeth yr Adran TG a Chydlynydd Cymhwysedd Digidol yn Ysgol Maes-y-Gwendraeth, Cefneithin “Mae astudio ar gyfer gradd Meistr yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers gadael y Brifysgol. Dwi erioed wedi llwyddo i ddod o hyd i gwrs sy’n cyd-fynd â’r hyn rydw i eisiau dysgu yn ei gylch a hefyd yn fy helpu gyda fy ngwaith beunyddiol fel athro. Pan welais yr unedau oedd ar gael o fewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch roeddwn yn eiddgar i ddechrau! Gallaf wneud popeth o gartref! Mae’r holl ddarlithoedd ar-lein yn ogystal â’r taflenni gwaith a’r tasgau ymarferol. Mae’r darlithwyr a’r tiwtorialau byw ar-lein a gynhelir unwaith yr wythnos yn help mawr i’ch paratoi ar gyfer yr aseiniadau.”

Mae dull hyblyg y cwrs hefyd yn caniatáu i gyfranogwyr ddechrau astudio pa bynnag fodiwl sydd fwyaf o ddiddordeb iddynt a chymryd cynifer neu gyn lleied o fodiwlau ag y dymunant, naill ai fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu i adeiladu tuag at ystod o gymwysterau ôl-raddedig (Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Feistr MSc).

Mae Siwan Dafydd, Pennaeth Cyfryngau Cymdeithasol Cwmni Cynhyrchu Telesgop yn gweld Cynhyrchu Cyfryngau Uwch fel y cyfle perffaith i ddatblygu ei sgiliau yn ei gwaith beunyddiol sy’n newid yn barhaus, “Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i mi ddatblygu ymhellach y sgiliau sydd gen i eisoes a datblygu rhai newydd y mae angen i mi fod yn ymwybodol ohonynt yn y diwydiant hwn.”

Cydnabyddir yn eang bod diffyg sylweddol yn y math hwn o hyfforddiant yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, mae hyfforddiant yn cael ei gynnig AM DDIM ar hyn o bryd i fusnesau a gweithwyr cymwys sy’n cofrestru cyn Mehefin 2021. I wirio cymhwysedd ar-lein ewch i: https://amp.aber.ac.uk/cy/study/eligibility-and-fees/enrolment-eligibility/

Dywedodd Doug Neil, myfyriwr aeddfed o Abertawe sy’n gweithio i’r GIG “Mae dysgu o bell wedi caniatáu imi weithio gartref ar amser sy’n addas i mi. Mae rhyw 30 mlynedd wedi bod ers i mi weithio’n academaidd ddiwethaf ar lefel Meistr a byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am brofiad cyfryngau amrywiol a heriol i ystyried y rhaglen Feistr hon.”

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen ewch i amp.aber.ac.uk neu cysylltwch ag aelod o’r tîm trwy e-bost: ccu-amp@aber.ac.uk