Gwella’ch Sgiliau Digidol am Ddim!
Gyda’r pwyslais ar ddarparu’n ddigidol yn dod mor gyffredin dros y misoedd diwethaf ac yn debygol o barhau i’r dyfodol agos, efallai y bydd gan fusnesau, sefydliadau a’r hunangyflogedig ddiddordeb mewn cyrsiau ar-lein newydd sy’n cynnig cyfle i weithwyr wella eu sgiliau digidol a chyfryngau.
Prifysgol Aberystwyth sy’n cyflwyno’r rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru, ac mae dull hyblyg y cwrs yn caniatáu i gyfranogwyr ddechrau astudio pa bynnag fodiwl sydd fwyaf o ddiddordeb iddynt a chymryd cynifer neu gyn lleied o fodiwlau ag y dymunant, naill ai fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu i adeiladu tuag at ystod o gymwysterau ôl-raddedig – hyd at lefel MSc Meistr.
Y peth gwych yw ei fod ar gael yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd i fusnesau cymwys a’r hunangyflogedig!
Y modiwlau sy’n cael eu cynnal ym mis Hydref 2020 yw:
· Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol
· Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau
· Sgiliau Uwch mewn Cynhyrchu Cyfryngau
· Diwylliant Digidol
· Datblygu’r We
· Graffeg Gymhwysol
· Cynhyrchu Cyfryngau a Rhyw
Gall cyfranogwyr astudio heb yr angen i gymryd amser o’r gwaith, trwy raglen dysgu o bell ar-lein.
Mae bwrsariaethau ar gael hefyd i helpu gyda chostau teithio a gofal dibynyddion.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch a’r meini prawf cymhwysedd, ewch i: amp.aber.ac.uk neu anfonwch e-bost at ccu-amp@aber.ac.uk