Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Datblygu Gwefannau
Datblygu Gwefannau
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i dechnoleg greiddiol a phensaernïaeth y We. Trafodir cyfathrebu, strwythur a chyflwyno cynnwys, a hanfodion cronfeydd data ar gyfer cymwysiadau’r we. Wrth gwblhau’r modiwl, byddwch yn barod i ddechrau datblygu gwefannau, yn cynnwys safleoedd sy’n defnyddio ochr gefn cronfa ddata.
Amcanion dysgu
Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:
-
Dangos gwybodaeth sylfaenol ac ymarferol fanwl o ddatblygu’r we, yn cynnwys defnyddio Systemau Rheoli Cynnwys (CSS), HTML, a chronfeydd data.
-
Gwerthuso pensaernïaeth y we a deall y gwahaniaeth rhwng prosesu o du’r cwsmer ac o du’r gweinydd.
-
Dadansoddi’r gofynion er mwyn cynllunio datrysiadau gwe effeithlon a phriodol sy’n bodloni safonau’r we o ran cyflwyno a hygyrchedd.
-
Llunio tudalennau gwe syml gan ddefnyddio system reoli cynnwys a thrwy ysgrifennu HTML a rheoli’r cyflwyno drwy ddefnyddio CSS.
-
Cynllunio, gwerthuso, gosod a chwestiynu storfeydd data parhaus.
-
Cyfathrebu egwyddorion dylunio ar gyfer y we i gynulleidfaoedd annhechnegol a thechnegol.
Cynnwys
Byddwn yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gweithgareddau ymarferol i drafod y cynnwys isod:
Rhestr o’r unedau
Bloc 1 – Cyflwyniad i’r we |
---|
1. Hanfodion y we – pensaernïaeth ac egwyddorion |
2. Rheoli gwefannau – sefydlu a chynnal a chadw, rheoli’r defnydd o’r cynnwys |
3. Cynllunio gwefannau |
Bloc 2 – Datblygu gwefannau |
---|
4. Ysgrifennu gwefannau – Cyflwyniad i HTML |
5. Cyflwyno – defnyddio CSS |
6. Cynllunio ymatebol – cynllunio gwefannau i’w defnyddio ar wahanol ddyfeisiau |
7. Sgriptio ar gyfer gwefannau – JavaScript i ychwanegu rhyngweithio |
Bloc 3 – Gwefannau proffesiynol |
---|
8. Cronfeydd data ar gyfer y we – cyflwyno’r ochr gefn |
9. Safonau ac arfer gorau |
10. Dyfodol y we |
Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje