Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Naratif ac Affaith
Naratif ac Affaith
Modiwl theori ac arfer cyfun yw Naratif ac Affaith lle mae myfyrwyr yn cymhwyso dadansoddiad thematig sinematig i sgiliau golygu technegol ar yr un pryd – dull seicolegol unigryw tuag at y grefft o wneud ffilmiau! Mae gwaith cwrs ac asesiadau wythnosol yn canolbwyntio ar ddarn o athroniaeth sydd wedyn yn cael ei gymhwyso i ddilyniant wedi’i olygu gan ddefnyddio technegau dweud stori dramatig ac artistig. Bydd angen i fyfyrwyr fod wedi cwblhau’r modiwl Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau a meddu ar sgiliau golygu sylfaenol pan fyddant yn dechrau ar y modiwl hwn. Bydd y modiwl hwn yn apelio at fyfyrwyr CCU sy’n mwynhau meddwl yn ddwys am gynnwys ffilm a theledu, tra hefyd yn arbrofi â’u cynnwys creadigol eu hunain.
Sylwch: Ni ofynnir i fyfyrwyr ffilmio eu cynnwys eu hunain; darperir lluniau wedi’u creu ymlaen llaw fel y gallant ganolbwyntio’n llwyr ar y golygu.
Amcanion Dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Arddangos deheurwydd golygu technegol ar y cyd â dewisiadau dramatig sy’n artistig effeithiol.
- Dadansoddi dilyniant sgrin-ffuglen trwy gymhwyso theori athronyddol naratif, affeithiol neu seicdreiddiol.
- Lleoli arwyddocâd yr arddull golygu i’r prosiect cyffredinol, a gwerthuso sut mae’r arddull golygu yn cyd-fynd â themâu naratif ac elfennau cynhyrchu eraill (camera, goleuo, sain, perfformiad).
Cynnwys
Mae’r modiwl hwn yn defnyddio cyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio ymlaen llaw, darllen dan arweiniad, seminarau digidol dewisol, gweithgareddau dysgu wythnosol ymarferol a gweithgareddau dysgu wythnosol wedi’u seilio ar theori i gwmpasu’r meysydd canlynol:
Rhestr o unedau
Bloc 1 – Disgrifiadau o’r Amserol |
---|
1. Lle |
2. Amser |
Bloc 2 – Archwiliadau o Drawma |
---|
3. Cof (mynd y tu hwnt i’r amserol) |
4. Realiti materol |
5. Anhwylder seicolegol |
Bloc 3 – Adrodd am Ddynoliaeth |
---|
6. Awydd (y syllu) |
7. Arwriaeth ac anferthwch |
8. Cysylltiadau â’r Arall (teulu) |
Darlithydd: Dr Laura Stephenson