Cwrs Cyfryngau Cymraeg ar Restr fer Gwobr Bwysig

Mae cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn yn ‘THE Awards’ eleni.

Mae ‘THE Awards’ yn cael eu cydnabod yn eang fel Oscars addysg uwch, yn denu cannoedd o gynigion bob blwyddyn sy’n arddangos talent, ymroddiad ac arloesedd unigolion a thimau ar draws pob agwedd ar fywyd prifysgol, gan ddangos rhesymau dirifedi pam bod ein sefydliadau yn parhau i ffynnu.

Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun unigryw sy’n dwyn ynghyd Adrannau Cyfrifiadureg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ac mae wedi canolbwyntio ar uwchsgilio diwydiannau creadigol Cymru trwy gydol pandemig Covid-19.

Hyd yma, mae mwy na 160 o weithwyr wedi cofrestru ac mae’r Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wrth ei bodd gyda’i lwyddiant,

“Rwy’n gwbl ymwybodol o’r ymdrech aruthrol a wnaed i sefydlu’r MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol, ac mae bod ar restr fer y wobr bwysig hon yn gyffrous iawn”.

“Nododd sefydliadau a chwmnïau cyfryngau yr angen i uwchsgilio eu gweithlu i ateb y galw cynyddol am gynnwys digidol creadigol ar draws pob platfform. Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth i ymateb yn gyflym i’w hanghenion gyda’r cynllun amlddisgyblaethol unigryw hwn, gyda’r nod o wella arloesedd a chynhyrchedd y diwydiant yn y diwydiannau creadigol trwy gyfnewid gwybodaeth.”

Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, roedd yr holl fodiwlau ar y cwrs ar gael yn hyblyg ac am ddim i sefydliadau cymwys a’r hunangyflogedig sy’n gweithio yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Ychwanegodd yr Athro Jones; “Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu buddion creu a chyfathrebu digidol. Wrth i’r byd fynd i gyfnod clo, daethom ni’n fwyfwy dibynnol ar ein dyfeisiau digidol at ddibenion gwaith a chymdeithasol, tuedd sydd yn debygol o barhau.”

Datgelir yr enillwyr mewn seremoni wyneb yn wyneb yn Llundain ar 25 Tachwedd 2021