Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Data Mawr
Data Mawr
Mae ffeiliau cyfryngau yn aml yn fawr a gall prosiect cyfryngau gynnwys nifer o ffeiliau cysylltiedig. Yn y modiwl hwn, byddwn yn ymchwilio i sut i reoli’r holl ddata yma, gan gynnal cyfanrwydd y data yn ogystal â chyfanrwydd y berthynas rhyngddynt. Wrth archifo’r prosiectau, dymunwn adfer ystyr y data (a yw fformatau’r ffeiliau yn dal i gael eu cefnogi?) yn ogystal â dod o hyd iddo. Sut mae olrhain data cysylltiedig? Mae’r modiwl hwn yn ymhelaethu ar y cyflwyniad i gronfeydd data perthynol a gafwyd yn y modiwl Datblygu’r We ac yn rhoi golwg fanylach ar reoli data.
Amcanion dysgu
Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:
- Cynllunio a rhoi cronfa ddata NoSQL ar waith gydag un neu ragor o gymwysiadau ochr flaen.
- Gwerthuso cymhwysedd gwahanol strategaethau rheoli data technegol ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau.
- Egluro’r cysyniadau hanfodol y tu ôl i amrywiaeth o fodelau data NoSQL, yn cynnwys modelau data allweddol, dogfennau a graffiau.
- Adnabod y problemau diogelwch posibl a godir drwy ddefnyddio’r systemau rheoli data NoSQL i drin cyfeintiau enfawr o ddata â chyfraddau trafod uchel, ac awgrymu strategaethau lliniaru.
Cynnwys
Byddwn yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gwaith ymarferol i drafod y meysydd canlynol:
Rhestr o’r unedau
Bloc 1 – SQL a NoSQL |
---|
1. Rheoli data perthynol |
2. Cyferbynnu systemau data perthynol (SQL) a NoSQL |
3. Ymholi cronfeydd data presennol |
Bloc 2 – Datblygu systemau rheoli data NoSQL |
---|
4. Dewis y system rheoli data “gywir” |
5. Modelu, diogelu a phrosesu cyfeintiau enfawr o ddata â chyfraddau trafod uchel |
6. Creu model data NoSQL, rhoi’r model ar waith ac ymholi’r gronfa ddata fydd yn deillio ohono |
7. Archwilio modelau data NoSQL amgen |
Bloc 3 – Dadansoddeg data a chloddio data |
---|
8. Rhaglennu cymwysiadau ar gyfer dadansoddi data |
9. Rheoli data cwmwl |
10. Mannau gwan, ffactorau gweithdrefnol a thechnegol, dadansoddi a lliniaru bygythiadau |
Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje