Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Diwylliannau Digidol
Diwylliannau Digidol

Mae’r modiwl hwn yn cydnabod bod y diwylliannau digidol yn cael effaith sylweddol ar gynhyrchu cyfryngau cyfoes, gan gydnabod y diwylliannau digidol fel penllanw grymoedd cymdeithasol eang, datblygiadau hanesyddol, rhyngweithgarwch a chreadigrwydd. Mae Diwylliannau Digidol yn ymchwilio i’r tirlun diwylliannol-gymdeithasol yn yr oes ddigidol drwy ddarparu trosolwg o’r ‘digidol’ fel endid damcaniaethol, athronyddol ac ymarferol. Bydd y myfyrwyr sy’n ymwneud ag neu wedi’u cyflogi gan unrhyw agwedd ar gynnwys cyfryngau ar-lein yn elwa o’r modiwl hwn drwy feithrin dealltwriaeth fanwl o sut y defnyddir y diwylliannau digidol i ddylanwadu ac adeiladu ar hunaniaeth, democratiaeth, adloniant a chyfathrebu mewn cynhyrchu cyfryngau cyfoes.
Amcanion dysgu
Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:
- Lleoli natur datblygiadau technolegol o fewn fframwaith hanesyddol-gymdeithasol ehangach.
- Gwerthuso a myfyrio ar effaith technolegau digidol ar weithgareddau a chyd-destunau hanesyddol-gymdeithasol.
- Egluro a dadansoddi’r rhyngweithio rhwng diwylliannau digidol, technolegau digidol a chynhyrchu cyfryngau cyfoes.
Cynnwys
Mae’r modiwl hwn yn defnyddio cyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad, tiwtorialau grŵp a thaflenni gwaith ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
Rhestr o’r unedau
| Bloc 1 – Cyd-destun digidol |
|---|
| 1. Technoleg mewn hanes |
| 2. Dinasyddiaeth a democratiaeth ddigidol |
| 3. Brandio a marchnata |
| Bloc 2 – Seiberddiwylliant |
|---|
| 4. Y gymuned a rhwydweithio cymdeithasol |
| 5. Ail fywydau a chwarae gemau ar lein |
| 6. Hacio, is-ddiwylliannau a hacweithredu |
| Bloc 3 – Cynhyrchu a Defnyddio |
|---|
| 7. Adrodd straeon a chelf ddigidol |
| 8. Sinema a cherddoriaeth ddigidol |
| 9. Teledu digidol, llwyfannau a chydgyfeirio |
Darlithydd: Dr Laura Stephenson





