Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Graffeg Gymhwysol
Graffeg Gymhwysol
Bydd y modiwl hwn yn dysgu hanfodion prosesu delweddau a fideo ac animeiddio 3D â dealltwriaeth o’r fathemateg sylfaenol. Cyflwynir y fathemateg ar lefel fydd yn addas i bobl â chymhwyster TGAU sydd heb efallai astudio mathemateg ers tro. Fe’ch cyflwynir i’r cysyniadau mathemategol y tu ôl i drin a phrosesu delweddau yn ogystal â graffeg 3D. Byddwn yn edrych ar gywasgu delweddau a’u hidlo cyn symud ymlaen i ddefnyddio pecyn animeiddio 3D i greu delweddau ac animeiddiadau.
Amcanion dysgu
Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:
- Cymhwyso rhifyddeg fectorau sylfaenol a thrawsffurfiau matrics at 2D a’u cyffredinoli i ddata 3D.
- Cymharu a gwerthuso’n feirniadol ystod o dechnegau cywasgu, trin a datblygu delweddau.
- Dangos dealltwriaeth a gallu i gymhwyso ystod o dechnegau modelu ac animeiddio 3D.
- Cymhwyso technegau priodol i greu allbwn proffesiynol.
Cynnwys
Bydd y modiwl hwn yn defnyddio darlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad a gwaith ymarferol gyda gweithdai. Byddwn yn trafod y meysydd canlynol:
Rhestr o’r unedau
Bloc 1 – Y drwydded yrru graffeg fathemategol |
---|
1. Cyfesurynnau a rhifyddeg fectorau |
2. Polygonau a thrawsffurfiau matrics 2D |
3. Cyffredinoli trawsffurfiau matrics i 3D |
Bloc 2 – Prosesu delweddau a fideo |
---|
4. Cyflwyniad i brosesu delweddau a fideo |
5. Ardaloedd lliw a histogramau |
6. Cywasgu, hidlo ac ôl-brosesu |
Bloc 3 – Animeiddio 3D |
---|
7. Rhwyllau 3D a golygu rhwyllau |
8. Lleoli a goleuo 3D |
9. Defnyddiau a gweadau |
10. Animeiddio |
Darlithwyr: Dr Jonathan Bell, Dr Edore Akpokodje