Modiwlau & Amserlen

Hafan  /  Astudio Gyda Ni  /  Modiwlau & Amserlen  / Naratif ac Affaith

Naratif ac Affaith

Modiwl theori ac arfer cyfun yw Naratif ac Affaith lle mae myfyrwyr yn cymhwyso dadansoddiad thematig sinematig i sgiliau golygu technegol ar yr un pryd – dull seicolegol unigryw tuag at y grefft o wneud ffilmiau! Mae gwaith cwrs ac asesiadau wythnosol yn canolbwyntio ar ddarn o athroniaeth sydd wedyn yn cael ei gymhwyso i ddilyniant wedi’i olygu gan ddefnyddio technegau dweud stori dramatig ac artistig. Bydd angen i fyfyrwyr fod wedi cwblhau’r modiwl Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau a meddu ar sgiliau golygu sylfaenol pan fyddant yn dechrau ar y modiwl hwn. Bydd y modiwl hwn yn apelio at fyfyrwyr CCU sy’n mwynhau meddwl yn ddwys am gynnwys ffilm a theledu, tra hefyd yn arbrofi â’u cynnwys creadigol eu hunain.

Sylwch: Ni ofynnir i fyfyrwyr ffilmio eu cynnwys eu hunain; darperir lluniau wedi’u creu ymlaen llaw fel y gallant ganolbwyntio’n llwyr ar y golygu.

Amcanion Dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  1. Arddangos deheurwydd golygu technegol ar y cyd â dewisiadau dramatig sy’n artistig effeithiol.
  2. Dadansoddi dilyniant sgrin-ffuglen trwy gymhwyso theori athronyddol naratif, affeithiol neu seicdreiddiol.
  3. Lleoli arwyddocâd yr arddull golygu i’r prosiect cyffredinol, a gwerthuso sut mae’r arddull golygu yn cyd-fynd â themâu naratif ac elfennau cynhyrchu eraill (camera, goleuo, sain, perfformiad).

Cynnwys

Mae’r modiwl hwn yn defnyddio cyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio ymlaen llaw, darllen dan arweiniad, seminarau digidol dewisol, gweithgareddau dysgu wythnosol ymarferol a gweithgareddau dysgu wythnosol wedi’u seilio ar theori i gwmpasu’r meysydd canlynol:

Rhestr o unedau

Bloc 1 – Disgrifiadau o’r Amserol
1. Lle
2. Amser
Bloc 2 – Archwiliadau o Drawma
3. Cof (mynd y tu hwnt i’r amserol)
4. Realiti materol
5. Anhwylder seicolegol
Bloc 3 – Adrodd am Ddynoliaeth
6. Awydd (y syllu)
7. Arwriaeth ac anferthwch
8. Cysylltiadau â’r Arall (teulu)

Darlithydd: Dr Laura Stephenson