Hafan / Astudio Gyda Ni / Modiwlau & Amserlen / Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau
Rhywedd a Chynhyrchu Cyfryngau
Bydd y modiwl hwn yn datblygu’ch dealltwriaeth o’r berthynas gymhleth rhwng cyfryngau a rhywedd. Mae’n archwilio tueddiadau allweddol yn nefnydd y gynulleidfa a chynrychiolaeth y rhywiau ac yna’n archwilio’r tueddiadau hynny trwy ddadansoddiad testunol agos o fformatau cyfryngau lluosog. Yn y modiwl hwn, byddwch hefyd yn edrych ar amlygiad tuedd rhywedd yn y byd go iawn o fewn y diwydiant cyfryngau ei hun, gan ystyried arferion y gweithle sy’n atal cydraddoldeb rhywiol, a’r rheoliadau cyfoes sy’n ceisio gweithio yn erbyn gwahaniaethu. Yn y pendraw, mae’r modiwl hwn yn tynnu cysylltiadau rhwng y testunau y mae’r cyfryngau yn eu cynhyrchu ac amodau’r diwydiant sy’n cynhyrchu’r testun hwnnw.
Amcanion Dysgu
Wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylech fedru:
- Dangos dealltwriaeth eang o’r berthynas gymhleth rhwng rhywedd a chyfryngau, gyda gwybodaeth fanwl o fewn maes penodol.
- Gwerthuso a dadansoddi arferion defnydd a materion cynrychiolaeth.
- Gwerthuso a dadansoddi materion o fewn arfer a rheoliad diwydiant.
- Mynegi datrysiadau i broblemau cydraddoldeb rhywiol hanesyddol a chyfoes gan ddefnyddio cynllun ymarferol wedi’i hysbysu gan theori a’r man gwaith.
Cynnwys
Defnyddia’r modiwl gyfres o ddarlithoedd wedi’u recordio, darllen dan arweiniad, tiwtorialau grŵp a thaflenni gwaith ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:
Rhestr o unedau
Bloc 1 – Gosod y seiliau |
---|
1. Arferion defnydd cyfryngau: Dadansoddi cyd-destun hanesyddol ac athronyddol |
2. Cynrychiolaeth cyfryngau: Tueddiadau a materion o fewn cyd-destun hanesyddol a chyfoes |
Bloc 2 – Adolygiad critigol testunol |
---|
3. Hysbysebu, marchnata a rhywedd |
4. Ffilm, teledu a rhywedd |
5. Newyddiaduraeth, darlledu a rhywedd |
6. Diwylliannau digidol, llwyfannau traws-gyfryngau a rhywedd |
Bloc 3 – Adolygiad critigol ymarferol |
---|
7. Diwydiant: Hawliau dynol, ymddygiad gweithle a gwahaniaethu |
8. Rheoliad: Bwlch cyflog, rhaniad llafur a chyfle cyfartal |
9. Cysylltu: Alinio tuedd rhywedd testunol a materion gweithle cyfryngau y byd go iawn |
Darlithydd: Dr Laura Stephenson